Yr Eneth Glaf
Pur
歌手:Sian James
专辑:《Pur》

作曲 : trad. arr. Sian James
Y mae’r haf yn hir yn dyfod
Meddai geneth fechan glaf
Pryd mae’r gwanwyn yma i ddarfod
Pryd fy mam y daw yr haf?

Dweud o hyd y mae ’nghyfeillion
Dyma’r unig gysur a gâf
“Cwyd dy galon eneth dirion
Mi fendi di pan ddaw yr haf.”

Oes rhyw arwydd fod hi’n c’nesu?
Oes briallu hyd y nant?
Ydi’r adar bach yn nythu
Ym mieri gwyllt y pant?

Dweud o hyd y mae ’nghyfeillion
Dyma’r unig gysur a gâf
“Cwyd dy galon eneth dirion
Mi fendi di pan ddaw yr haf.”

Chlywodd neb y gôg eleni
Ar hen dderwen fawr y ddôl
Ond i honno ddechre canu
Haws it wenu ar ei hôl.

Ond pan aeth y dyddiau heibio
Dyma’r unig gysur a gâf
Ar ei beddrod yn blodeuo
Y gwelir heddiw flodau’r haf.
更多>> Sian James的热门歌曲